Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Rhys Lloyd Davies
Specialist mental health staff / Staff arbenigol iechyd meddwl
Opportunities in Welsh / Cyfleoedd yn y Gymraeg.
Healthier school meals / Gwella cinio ysgol iach.
I am interested in politics and I support the following causes: many children do not understand how to manage their mental health. Many children live in fear of the world, with no-one to talk to, which is why I believe it is important that children can speak to specialist staff in schools. These staff can provide the additional support that children need when they feel sad or frightened.
My second choice is the quality of school meals. When I join the lunch queue, I often see food such as pizzas, overprocessed sausages and panini filled with ham and cheese on the menu. Secondary school pupils in Wales are served unhealthy school meals every single day. Also, not enough healthy food is offered.
Finally, the Welsh language. Bilingualism is an excellent idea, and every child should have the opportunity to speak two such wonderful languages. I propose that there should be more clubs outside school hours providing activities through the medium of Welsh for secondary school pupils.
Mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth ac rwyf am gefnogi'r achosion canlynol: Dydi llawer o blant ddim yn deall sut i reoli eu iechyd meddwl. Mae llawer ohonynt yn byw mewn ofn o'r byd, gyda neb i siarad i. Dyna pam rwyf yn credu ei fod yn bwysig fod plant yn cael staff arbenigol mewn ysgolion i siarad â nhw. Maent yn rhoi yr help ychwanegol mae llawer o blant trist ag ofnus angen. Fy ail ddewis yw ansawdd cinio ysgol. Pan rwyf yn mynd i mewn i'r ciw cinio, gwelaf pethau fel pitsa, selsig wedi'u gor-brosesu a panini llawn ham a chaws. Mae plant ysgolion uwchradd Cymru yn wynebu cinio ysgol aniachus bob un dydd. Dydi hyn ddim digon da. Hefyd, does dim digon o'r bwyd sydd YN iach yn cael ei weini. Yn olaf, y Gymraeg. Mae'r syniad o ddwyieithrwydd yn un gwych, a dylai bob un plentyn gael y cyfleoedd i siarad dwy iaith wych. Rydw i'n cynnig fod angen ychydig fwy o glybiau y tu allan i oriau ysgol drwy gyfrwng y Gymraeg i blant ysgol uwchradd.