Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.
Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.
Oliver Jones-Barr
Welsh Language / Y Gymraeg
Housing / Tai
Enviroment / Yr Amgylchedd
I would like to be a member of the Welsh Youth Parliment due to my belief that Young people today dont have as much of a say about the things that directly affect us for instance things that affect our education and our future
If elected i will
Help insure future housing for young people
Ensure that our enviroment is preserved for our future generations
make sure that the welsh language stays alive and prospering
I will also work as hard as i can to make sure that everyone has food and no one cant afford to eat
I am the best choice for a member due to my determination to get things done and my Strong Willed voice and unlike mist politicians i keep my promises, I will also i will ensure that all voices are heard and will do my best to make something happen.
I have been a Learning Ambassador for Ysgol Aberconwy before which taught me that all young people should have a say in politics and should understand that they have a voice and should use it! So please vote Oliver Jones-Barr
Rydw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu nad yw pobl ifanc heddiw yn cael dweud eu dweud am bethau sy’n effeithio arnon ni, er enghraifft pethau fydd yn effeithio ar ein haddysg a’n dyfodol.
Os caf fy ethol, byddaf yn:
- Helpu i sicrhau tai i bobl ifanc yn y dyfodol.
- Gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
- Gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu.
Byddaf hefyd yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod gan bawb fwyd, a bod neb yn methu fforddio bwyta.
Fi yw’r dewis gorau i fod yn aelod oherwydd dw i’n benderfynol o wneud i bethau ddigwydd, mae gen i lais penderfynol ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o wleidyddion, dw i’n cadw at fy addewidion. Byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei glywed ac yn gwneud fy ngorau i wneud i rywbeth ddigwydd.
Dw i wedi bod yn Llysgennad Dysgu i Ysgol Aberconwy o’r blaen, a dysgais bod angen i bob person ifanc gael llais mewn gwleidyddiaeth, a deall bod ganddyn nhw lais a bod angen ei ddefnyddio! Pleidleisiwch dros Oliver Jones-Barr.