Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Alexander Isaac Moore

Mater o Bwys 1

Mental Health / Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 2

Welsh culture/identity / Diwylliant/hunaniaeth Gymreig

Mater o Bwys 3

Littering (environment) / Taflu sbwriel (yr amgylchedd)

DATGANIAD YMGEISYDD

Hello I'm Lex Moore, I go to Ysgol Y Creuddyn and I'm in year 10. I am a member of my school council and Conwy Youth Council where I've learnt skills that will assist me in the Youth Parliament. I'm good at debating and coming up with unique ideas and making plans. I am well informed of what is going on in my local area due to my connections to Conwy Youth Council, school council, Conwy Youth Service and some members of the Conwy Council. I'm imaginative and inventive but I'm a realist with the knowledge to achieve almost anything I'm passionate about. I've had additional experience by going to the Conwy Council Scrutiny meetings where I've been able to see how adults deal with the issues facing our county, giving me experience and a unique prospective. I'm good at combining ideas to form a solid plan. I'm passionate about observing how other countries deal with there issues, especially ones similar to Wales' issues. I want to incorporate foreign ideas to put Wales on even footing

DATGANIAD YMGEISYDD

Helo, Lex Moore ydw i. Dw i’n mynd i Ysgol Y Creuddyn ac ym mlwyddyn 10 ar hyn o bryd. Dw i’n aelod o’r cyngor ysgol a Chyngor Ieuenctid Conwy lle dw i wedi dysgu sgiliau fydd yn fy helpu yn y Senedd Ieuenctid. Dw i’n dda am ddadlau a chael syniadau unigryw a gwneud cynlluniau. Dw i’n deall yn iawn beth sy’n digwydd yn yr ardal leol oherwydd fy nghysylltiadau â Chyngor Ieuenctid Conwy, y cyngor ysgol, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a rhai aelodau o Gyngor Conwy. Dw i’n ddyfeisgar ac yn ddychmygus, ond hefyd yn realistig, gyda’r wybodaeth i gyflawni bron popeth rwy’n angerddol drosto. Dw i wedi cael profiad ychwanegol drwy fynd i gyfarfodydd craffu Cyngor Conwy, ac wedi cael gweld sut mae oedolion yn delio gyda’r problemau yn ein sir, gan roi profiad a safbwynt unigryw i mi. Dw i’n dda am gyfuno syniadau i greu cynllun cadarn. Dw i’n angerddol dros arsylwi sut mae gwledydd eraill yn delio gyda’u problemau nhw, yn enwedig rhai sy’n debyg i broblemau Cymru. Rydw i eisiau ymgorffori syniadau tramor i roi Cymru mewn sefyllfa gyfartal