Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Finley Jay Osborne

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 2

Education / Addysg

Mater o Bwys 3

Environment / Yr Amgylchedd

CANDIDATE STATEMENT

I would like to become a Youth Parliament Member because I would like to be spokesperson for my peers and I feel I have the potential to make a difference. I was voted Head Boy in my primary school and I am confident speaking in front of people. I would like to see more support for pupils with additional needs. I would like to create more activities for people to do outside of school. Sport will be a major focus, getting people to be active and creating more sports activities for people to attend.
I would like to promote healthcare education to younger people as I feel it is very important, and encourage people to eat healthier and be more active.
I would also promote recycling to younger people and provide better education about climate change and the environment. It is important that the youth of today make changes now to improve our future.
I hope you will consider me for this important role, I am enthusiastic about making a positive change.
Finley Osborne

DATGANIAD YMGEISYDD

Dw i eisiau dod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid oherwydd dw i eisiau codi llais dros fy nghyfoedion, a chredaf fod gen i botensial i wneud gwahaniaeth. Cefais fy ethol yn Brif Fachgen yn fy ysgol gynradd, ac rwy’n hyderus yn siarad o flaen pobl. Dw i eisiau gweld mwy o gymorth i ddisgyblion ag anghenion ychwanegol. Dw i eisiau creu rhagor o weithgareddau i bobl gymryd rhan ynddynt y tu allan i’r ysgol. Bydd chwaraeon yn ffocws mawr, hynny yw, cael pobl i fod yn actif a chreu rhagor o weithgareddau chwaraeon i bobl gymryd rhan ynddynt. Dw i eisiau hybu addysg gofal iechyd ymysg pobl iau, oherwydd mae’n bwysig iawn yn fy marn i, yn ogystal ag annog pobl i fwyta’n iachach a bod yn fwy actif. Bydden i hefyd yn hyrwyddo ailgylchu ymysg pobl iau a darparu addysg well am newid hinsawdd a’r amgylchedd. Mae’n bwysig bod ieuenctid heddiw yn rhoi newidiadau ar waith nawr i wella ein dyfodol. Gobeithio y byddwch chi’n f’ystyried i ar gyfer y rôl bwysig hon, rwy’n frwd dros roi newid positif ar waith.
Finley Osborne