Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Lydia-May Thomas

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Financial Education / Addysg Ariannol

Mater o Bwys 2

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

My name is Lydia May, and I'm running for Welsh Youth Parliament because I believe one voice, can change the world, for the better. I feel strongly that everyone, no matter what culture, race, or nationality, should be equal. I think I could be a great asset to the Welsh Youth Parliament due to my great communication skills, my ability to do written work and my above average grades. I try to be as helpful as I can towards everyone, and I treat everyone with love and respect. If I was voted on the Welsh Youth Parliament , I'd give more financial education to the younger generation better health-care and mental health services. I'll be sure to further elaborate and demonstrate the passion in my ideas in the future. This will be a great opportunity for not only me, but for you as well. I think that the Welsh Youth Parliament would benefit from having me as a member. Please vote for Lydia-May!

DATGANIAD YMGEISYDD

Fy enw i yw Lydia-May, a dw i’n sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rydw i’n credu y gall un llais newid y byd er gwell. Dw i’n teimlo’n gryf y dylai pawb, beth bynnag yw eu diwylliant, hil neu genedligrwydd, fod yn gyfartal. Dw i’n credu y gallwn i fod yn ased wych i Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy sgiliau cyfathrebu ardderchog, fy ngallu i gyflawni gwaith ysgrifenedig a fy ngraddau uwch na’r cyfartaledd. Dw i’n ceisio rhoi help llaw i bawb, ac yn trin pawb gyda chariad a pharch. Petawn i’n cael sedd ar Senedd Ieuenctid Cymru, bydden i’n rhoi mwy o addysg ariannol i’r genhedlaeth iau, gofal iechyd gwell a gwasanaethau iechyd meddwl gwell. Byddaf yn manylu ac yn arddangos fy angerdd dros fy syniadau yn y dyfodol. Bydd hyn yn gyfle gwych i mi, ond i chi hefyd. Dw i’n credu y byddai Senedd Ieuenctid Cymru yn elwa o fy nghael i yn aelod. Pleidleisiwch dros Lydia-May!