Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Thea Jenkins

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Healthcare / Gofal Iechyd

Mater o Bwys 2

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 3

Education / Addysg

DATGANIAD YMGEISYDD

I am putting myself forward to step up and help my community. I am driven, innovative, and attentive. I am also curious, empathetic, and observant and I am dedicated to diversity, fair representation and helping others. I am confident, approachable, and creative. If I am elected, I will help the young people resound their bright ideas by giving presentations, setting up social events and utilising social media to promote and highlight issues, aiming to unify young people and raise awareness. I love sports and regularly play netball and dance ballet. I enjoy fundraising and charity events, helping those who are disadvantaged, and I even helped start a charity group at my school. I frequently participate in school events and help to run sports clubs. I am passionate about healthcare and the health and wellbeing of young people, and I believe that if I’m elected as a Welsh Youth Parliament Member, I will bring about change for all youth in Wales. Vote for me, say yes for taking action!

DATGANIAD YMGEISYDD

Rwy’n sefyll fel ymgeisydd i gamu ymlaen a helpu fy nghymuned. Rydw i’n frwdfrydig, yn arloesol ac yn dda am dalu sylw. Dw i hefyd yn chwilfrydig ac yn gallu dangos empathi ac wedi ymrwymo i amrywiaeth, cynrychiolaeth deg a helpu eraill. Dw i’n hyderus, yn hawddgar ac yn greadigol. Os byddaf yn cael fy ethol, byddaf yn helpu pobl ifanc amlygu eu syniadau da drwy roi cyflwyniadau, trefnu digwyddiadau cymdeithasol a manteisio ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo a thalu sylw i faterion, gan geisio uno pobl ifanc a chodi ymwybyddiaeth. Rydw i wrth fy modd â chwaraeon ac yn aml yn chwarae pêl-rwyd ac yn dawnsio bale. Rydw i’n mwynhau digwyddiadau codi arian ac elusennol, helpu rhai dan anfantais, a nes i hyd yn oed helpu i sefydlu grŵp elusennol yn fy ysgol. Rydw i’n aml yn cymryd rhan mewn digwyddiadau’r ysgol ac yn helpu i redeg clybiau chwaraeon. Rydw i’n frwd dros ofal iechyd ac iechyd a lles pobl ifanc, ac rydw i’n credu y byddaf yn gallu rhoi newid ar waith i bob person ifanc yng Nghymru os caf fy ethol yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Pleidleisiwch drosof fi a dros weithredu!