Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Joana Mendes-David

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Environment / Yr Amgylchedd

Mater o Bwys 3

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

DATGANIAD YMGEISYDD

I would like to be a member of the Welsh Youth Parliament as I want to give a voice to those who want a better future for us, the youth of Aberavon. I am quite intelligent and I have good social skills, I am also creative and interested in politics.
I would start of with speaking to the young people by going to different schools, and ask them on their opinions as it is important that their voices are heard. I think people should vote for me as I would give a chance for the youth of Aberavon to have a voice, to give their opinions and value the education of the youth and treasure the environment of our town.
The mental wellbeing of our youth is also very important, and I feel it is not mentioned enough. Many young people suffer from mental health problems, and I feel like we need to be there for them & speak up for those struggling with mental health.

DATGANIAD YMGEISYDD

Rydw i eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i eisiau rhoi llais i’r rhai sydd eisiau dyfodol gwell i ni, pobl ifanc Aberafan. Rydw i’n eithaf clyfar, ac mae gen i sgiliau cymdeithasol da. Rydw i hefyd yn greadigol ac mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth.
Bydden i’n dechrau drwy siarad gyda phobl ifanc drwy fynd i ysgolion gwahanol a holi eu barn oherwydd mae’n bwysig bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Dw i’n meddwl y dylai pobl bleidleisio drosof fi oherwydd bydden i’n rhoi cyfle i bobl ifanc Aberafan gael llais, mynegi barn a gwerthfawrogi addysg ein hieuenctid ac amgylchedd ein tref.
Mae lles meddyliol ein pobl ifanc hefyd yn bwysig iawn, ac nid yw’n cael ei drafod ddigon yn fy marn i. Mae llawer o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl, a dw i’n meddwl bod angen bod yno iddyn nhw a siarad allan dros y rhai sy’n dioddef gydag iechyd meddwl.