Noder mai barn yr ymgeiswyr unigol sydd wedi’i nodi ym mhroffiliau’r ymgeiswyr, ac nid yw’r cynnwys hwn yn cynrychioli barn y Senedd.


Noder hefyd bod yr holl broffiliau wedi’u cyfieithu i sicrhau bod y wybodaeth am yr ymgeiswyr ar gael yn ddwyieithog.

Izabella-Naomi Hanford

Ymgeisyddiaeth
Mater o Bwys 1

Education / Addysg

Mater o Bwys 2

Mental Health Services / Gwasanaethau Iechyd Meddwl

Mater o Bwys 3

Environment / Yr Amgylchedd

DATGANIAD YMGEISYDD

Passion,justice and change this is what got me elected as head of year and what I will bring to the Youth Parliament. During my time as head of year
I was approachable and listened to my peers needs, working with others to implement change where needed for example adding a wider range of fun activities during break times. I will speak to youths in my community and my peers. I will arrange a drop in clinic at School where I will listen to and provide support to those who need it. I will be the voice for those who feel they cannot speak out. I am passionate about supporting Mental health within school and ALN. With a focus on anti bullying and encouraging others to speak out about their mental health. I also believe there should be more safe spaces available for youths to enjoy extra curricular activities, such as inclusive youth groups or a warm comfortable space that provides low cost enrichment for us to come together. Please consider me as your voice and vote. Thank you for reading.

DATGANIAD YMGEISYDD

Angerdd, cyfiawnder a newid. Dyna wnaeth arwain ataf yn cael fy ethol yn Brif Ddisgybl y Flwyddyn a dyna fyddaf i’n gallu cyfrannu at y Senedd Ieuenctid. Yn ystod fy amser fel pennaeth blwyddyn, ro’n i’n hawddgar ac yn gwrando ar anghenion fy nghyfoedion, gan weithio gydag eraill i roi newid ar waith lle roedd angen, er enghraifft ychwanegu mwy o weithgareddau hwyliog yn ystod amser egwyl. Dw i’n mynd i siarad â phobl ifanc a chyfoedion yn y gymuned. Dw i’n bwriadu trefnu clinig galw heibio yn yr Ysgol lle byddaf yn gwrando ac yn rhoi cymorth i’r rhai sydd ei angen. Dw i’n mynd i roi llais i’r rhai sy’n teimlo na allan nhw siarad allan. Rydw i’n angerddol dros gefnogi iechyd meddwl yn yr ysgol ac ADY. Rydw i’n awyddus i roi ffocws ar wrth-fwlio ac annog eraill i siarad allan am eu hiechyd meddwl. Dw i hefyd o’r farn y dylai fod mwy o fannau diogel ar gael i bol ifanc fwynhau gweithgareddau allgyrsiol, megis grwpiau ieuenctid cynhwysol neu ofod cyfforddus a chynnes cost isel sy’n caniatáu inni ddod at ein gilydd. Gobeithio y byddwch yn ystyried fi fel eich llais a’ch pleidlais. Diolch am ddarllen.